Yn cysylltu pobl â natur, yn gwella bywydau, cyfleoedd a dyheadau

background

Cysylltwch â Ni


Mae croeso i chi gysylltu ag Elfennau Gwyllt ynglŷn ag unrhyw archebion, cwestiynau, prosiectau, partneriaethau cydweithredol neu i roi adborth am unrhyw un o’n gwasanaethau drwy:

Rivendell Building, Bangor University Treborth Botanic Garden, Bangor, Gwynedd, LL57 2RQ

07799 566533

info@wildelements.org.uk

background
sub-page-main-image

Yr ydych yma: Penblwyddi Coetir – Plentyn ac Oedolyn > Oedolyn

Oedolyn

Partïon wedi’u teilwra ar gyfer eich anghenion!

Partïon Pen-blwydd Coetir Elfennau Gwyllt ar gyfer oedolion – Antur neu Ymlacio!

Gwylltgrefft, coctels o amgylch y tân, themâu, gemau doniol neu deithiau cerdded hamddenol wedi’u teilwra i’ch anghenion chi gan Elfennau Gwyllt.

Cyfunwch a chydweddwch weithgareddau sy’n addas ar gyfer oedran a diddordeb eich gwesteion, dewiswch y thema a’r dyddiad a bydd Elfennau Gwyllt yn gwneud y gweddill. Gweithgareddau pwrpasol ar gael ar gais. Gadewch i ni wybod wrth i chi archebu.

Partïon yn Gymraeg, Saesneg neu’n ddwyieithog

Niferoedd: Hyd at 22 oedolyn. Os oes gennych ragor o westeion, cysylltwch â ni.

side-pic

Fel sefydliad amgylcheddol, rydym yn gweithredu polisi ‘gadael dim byd ar ôl’ sy’n golygu bod angen tacluso unrhyw sbwriel a’i waredu’n unol â’r polisi hwn. Caiff pob parti pen-blwydd eu harwain gan arweinwyr coetir profiadol

  • Saethyddiaeth
  • Gwylltgrefft
  • Coctels o amgylch y tân / Gwinoedd Coetir
  • Cynnau tân
  • Sblat! (cystadleuaeth catapwlt)
  • Parasiwtiau wyau
  • Naddu coed
  • Cerfio llwy
  • Adeiladu ffau
  • Dringo coed
  • Gemau o’ch plentyndod
  • Cystadlaethau adeiladu pontydd

Mae partïon Gerddi Botaneg Treborth hefyd yn cynnwys:

  • Gemau lawnt
  • Cyrsiau rhwystrau
  • Sialens droednoeth
  • Gemau anghyffredin, e.e. pasio’r nionyn, ras gyfnewid rhwystrau Wŷ Humpty Dumpty
  • Coctels o amgylch y tân / Gwinoedd Coetir!
  • Gwaith metel
  • Gwneud gemwaith
  • Naddu coed
  • Cerfio llwy
  • Adeiladu bocsys adar (£8.50 ychwanegol y pen)
  • Coginio ar dân yn yr awyr agored
  • Celf a chrefftau naturiol
  • Cysylltiadau â natur

Mae partïon Gerddi Botaneg Treborth hefyd yn cynnwys:

  • Teithiau cerdded natur
  • Teithiau tywys o amgylch y tai gwydr
  • Gwylio adar
  • Microsgopau

NEWYDD – Pitsa wedi’i goginio ar dân coed (parti lleiafswm o 3 awr) £6 ychwanegol y pen

Oedolion:

  • Parti Coetir 4 awr : 3-4 gweithgaredd. Prisiau’n dechrau o £195 (arian /siec) neu £200 PayPal
  • Parti Coetir 3 awr : 2-3 gweithgaredd, chwarae rhydd a smores. Prisiau’n dechrau o £175 (arian/siec) neu £180 PayPal
  • Partïon yng Gardd Botaneg Treborth

Important information:

  • Bydd cost ychwanegol o £20 ar gyfer partïon a gynhelir yn Nhreborth
  • Bydd cost ychwanegol gyda rhai gweithgareddau
  • Dewch â’ch ddiod feddwol eich hunain!
  • Mae angen cyrraedd 1 awr ymlaen llaw er mwyn paratoi
  • Darperir platiau, cwpanau, byrddau a lliain bwrdd os ydych yn dod a’ch bwyd eich hunain