Yn cysylltu pobl â natur, yn gwella bywydau, cyfleoedd a dyheadau
Cysylltwch â Ni
Mae croeso i chi gysylltu ag Elfennau Gwyllt ynglŷn ag unrhyw archebion, cwestiynau, prosiectau, partneriaethau cydweithredol neu i roi adborth am unrhyw un o’n gwasanaethau drwy:
Rivendell Building, Bangor University Treborth Botanic Garden, Bangor, Gwynedd, LL57 2RQ
07799 566533
info@wildelements.org.uk


Yr ydych yma: Employability & Training > Darlithiau a Chyrsiau Byr Cyhoeddus
Darlithiau a Chyrsiau Byr Cyhoeddus
Yn agored i bawb a dan arweiniad gweithwyr proffesiynol!
Bydd Elfennau Gwyllt, Gardd Fotaneg Treborth a Chyfeillion Treborth yn cynnal nifer o gyrsiau byr, darlithiau cyhoeddus a digwyddiadau ar amrywiol bynciau drwy gydol y flwyddyn.
Treborth Botanic Garden, Cyfeillion Treborth a Busy Bees, rydyn ni wedi cynyddu ein rhaglen yn sylweddol gyda chyrsiau byr a darlithiau cyhoeddus ar gyfer y prosiect Tyfu’r Dyfodol.
Diolch i bartneriaeth newydd rhwng Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru National Botanic Garden of Wales, Elfennau Gwyllt, Gardd Fotaneg Treborth, Cyfeillion Treborth a Busy Bees, rydyn ni wedi cynyddu ein rhaglen yn sylweddol gyda chyrsiau byr a darlithiau cyhoeddus ar gyfer y prosiect Tyfu’r Dyfodol.*
Ymhlith y pynciau bydd coedwigoedd pitw, garddwriaeth a pharamaethu, botaneg a gwyddor planhigion, troi cynnyrch cartref yn jam ac yn bicl, coedwigoedd, creu compost, coedwigoedd pitw a llawer iawn mwy.
Mae’r sesiynau’n agored i bawb, er mai nifer cyfyngedig o leoedd sydd, felly mae’n hanfodol trefnu lle. I drefnu lle, dewiswch y sesiwn sydd o ddiddordeb i chi yng nghalendr digwyddiadau Elfennau Gwyllt, dilynwch y ddolen i’r system drefnu EventBrite, a llenwch y ffurflen drefnu berthnasol neu cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth.
Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol i gael gwybodaeth am y cyrsiau, y darlithiau a’r digwyddiadau diweddaraf.
* Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cyllid trwy Raglen Datblygu Wledig 2014-2020 – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Ardaloedd Gwledig, a Llywodraeth Cymru.
English
07799 566533 info@wildelements.org.uk