Yn cysylltu pobl â natur, yn gwella bywydau, cyfleoedd a dyheadau

background

Cysylltwch â Ni


Mae croeso i chi gysylltu ag Elfennau Gwyllt ynglŷn ag unrhyw archebion, cwestiynau, prosiectau, partneriaethau cydweithredol neu i roi adborth am unrhyw un o’n gwasanaethau drwy:

Rivendell Building, Bangor University Treborth Botanic Garden, Bangor, Gwynedd, LL57 2RQ

07799 566533

info@wildelements.org.uk

background
sub-page-main-image

Yr ydych yma: Llogwch Ni

Llogwch Ni

Ychwanegwch flas Gwyllt i’ch digwyddiad cymunedol, dathliad preifat, ysgol neu fusnes!

Beth bynnag yw’r prosiect, beth bynnag yw’r achlysur, beth bynnag yw’r oedran, mae gan Elfennau Gwyllt amrediad eang o weithgareddau a darpariaethau ar eich cyfer.

Llogwch Elfennau Gwyllt ar gyfer dathliadau preifat, digwyddiadau neu alwadau cymunedol, diwrnodau agored, ffeiriau gwyddoniaeth, gweithgareddau ar gyfer ysgolion, grwpiau plant neu ieuenctid, sesiynau STEM a phrofiadau awyr agored.

Mae Elfennau Gwyllt hefyd yn darparu DPP a gallwn helpu ysgolion, mudiadau a busnesau gyda phrosiectau. Er enghraifft, gerddi cymunedol / synhwyraidd, gerddi mewn tai cynorthwyedig, datblygu ardaloedd addysg awyr agored, plannu coed, datblygu safle, creu llwybrau a gwneud gwelliannau bywyd gwyllt / amgylcheddol

Gallwch logi Elfennau Gwyllt ar gyfer sesiynau 1-6 awr, am faint bynnag o ddyddiau / wythnosau / misoedd / flynyddoedd yr hoffech! Gall y sesiynau ddigwydd yn o safleoedd Elfennau Gwyllt neu mewn lleoliad o’ch dewis chi.

side-pic

Mae’r gost yn ddibynnol ar hyd y sesiwn, y gweithgareddau fydd eu hangen a nifer o bobl fydd yn mynychu, cynigwn ostyngiad gydag mwy nag un archeb. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth

Mae Elfennau Gwyllt yn gweithio agos mewn partneriaeth gyda mudiadau lleol i ddarparu digwyddiadau a gweithgareddau ledled Gogledd Cymru. Gweler calendr digwyddiadau Elfennau Gwyllt.