Yn cysylltu pobl â natur, yn gwella bywydau, cyfleoedd a dyheadau
Cysylltwch â Ni
Mae croeso i chi gysylltu ag Elfennau Gwyllt ynglŷn ag unrhyw archebion, cwestiynau, prosiectau, partneriaethau cydweithredol neu i roi adborth am unrhyw un o’n gwasanaethau drwy:
Rivendell Building, Bangor University Treborth Botanic Garden, Bangor, Gwynedd, LL57 2RQ
07799 566533
info@wildelements.org.uk
Croeso i wefan Elfennau Gwyllt
Mae Elfennau Gwyllt yn fenter gymdeithasol ddi-elw ymrwymedig i gael pobl Gogledd Cymru tu allan i’r awyr agored er mwyn eu cysylltu â natur, i wella eu bywydau, cyfleoedd a dyheadau.
Mae Elfennau Gwyllt yn targedu busnesau corfforaethol, plant, oedolion, teuluoedd, ysgolion cynradd ac uwchradd, grwpiau ieuenctid, llyfrgelloedd, cymunedau a grwpiau cymunedol.
Mae’n gwasanaethau a darpariaethau yn cynnwys hyfforddiant achrededig, addysg awyr agored amgen, hyfforddiant DPB (Datblygiad Proffesiynol Parhaus), rhaglenni STEM a chelfyddydau, Ysgol Goedwig, Ysgol Traeth, profiadau cysylltu â natur, diwrnodau hwyl, clybiau gwyliau, clybiau gwyddoniaeth, partïon penblwydd coetir i blant ac oedolion, gerddi cymunedol, gerddi synhwyrau, pyllau, gwelliannau bywyd gwyllt a llawer mwy.
Hefyd, mae’r holl wasanaethau a darpariaethau yn hyblyg a gellir eu haddasu ar gyfer gofynion y gynulleidfa.
Mae Elfennau Gwyllt wedi’i leoli ar safle Gardd Fotaneg Treborth Prifysgol Bangor. Cynhelir sesiynau ar un o safleoedd Elfennau Gwyllt neu drwy waith ymestyn mewn lleoliad o’ch dewis chi, yn unol â chaniatad a bodloni gofynion Iechyd a Diogelwch.
Dewch o hyd i gyswllt natur sy’n gweddu i chi isod!
English
07799 566533 info@wildelements.org.uk