Yn cysylltu pobl â natur, yn gwella bywydau, cyfleoedd a dyheadau

background

Cysylltwch â Ni


Mae croeso i chi gysylltu ag Elfennau Gwyllt ynglŷn ag unrhyw archebion, cwestiynau, prosiectau, partneriaethau cydweithredol neu i roi adborth am unrhyw un o’n gwasanaethau drwy:

Rivendell Building, Bangor University Treborth Botanic Garden, Bangor, Gwynedd, LL57 2RQ

07799 566533

info@wildelements.org.uk

background
sub-page-main-image

Yr ydych yma: Cymunedau a Grwpiau Cymunedol

Cymunedau a Grwpiau Cymunedol

Elfennau Gwyllt – y dewis delfrydol ar gyfer gweithgareddau yn targedu cymunedau, sefydliadau cymunedol, ysgolion, oedolion, grwpiau plant ac ieuenctid, a chartrefi preswyl

Beth bynnag sy’n mynd a’ch bryd, sesiynau chwarae, gerddi cymunedol neu synhwyrol, carnifal, diwrnodau hwyl yn y gymuned, cyswllt a natur, dyddiau agored, clybiau gwyddoniaeth, celf a chrefft, gwyllt grefft neu welliannau amgylcheddol, gall Elfennau Gwyllt ddiwallu eich anghenion!

Fel sefydliad gwerin gwlad, prif nod Elfennau Gwyllt ydy cefnogi cymunedau lleol a theuluoedd ar draws Gogledd Cymru. Rydym yn gweithio gyda nifer o grwpiau plant, ieuenctid a chymunedol, corfforaethau cyhoeddus a sefydliadau eraill, gan gynnig ystod eang o weithgareddau ( gweler isod) i bobl o bob oed er mwyn sicrhau ein bod yn bodloni anghenion lleol.

Mae Elfennau Gwyllt hefyd yn cynnig gweithgareddau mewn digwyddiadau preifat, fel penblwyddi , priodasau a bedyddiadau, i ddifyrru plant tra mae’r rhieni ac oedolion yn dathlu. Llogwch Ni.

Mae’r gost yn dibynnu ar hyd sesiwn, y gweithgareddau a ddymunir a’r nifer o bobl sy’n mynychu. Rydym yn cynnig gostyngiad os ydych chi’n dymuno trefnu mwy nag un sesiwn ar y tro. Cysylltwch â ni i wybod mwy.

Mae gweithgareddau yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu i :

  • Crwydro ymysg natur
  • Cyrsiau hyfforddiant e.e.
  • Garddwriaeth,tyfu cynnyrch organig
  • Helfa trychfilod ac adeiladu llety i drychfilod
  • Fforio’r traeth a’r goedwig
  • Helfa Sboroniwyr
  • Garddio
  • Darlithoedd cyhoeddus a hyfforddi anffurfiol
  • Trochi mewn pyllau
  • Gwylio adar
  • Dringo coed
  • Dyddiau chwarae
  • Gemau
  • Dyddiau gwyddoniaeth
  • Cysylltu â Natur
  • Gweithgareddau Celf a Chrefft
  • Straeon
  • Gwylltgrefft
  • Coginio yn yr awyr agored
  • Smores (Bisgedi gyda siocled a malws melys)
  • Timau Cymunedol (cystadlaethau, gemau, gwaith tîm a gweithgareddau i oresgyn rhwystrau a gwella cydweithio cymunedol)
  • Saethyddiaeth
  • Defnyddio offer
  • Coginio efo tân
  • Adeiladu lloches
  • Cynnau tân
  • Olrhain
  • Cerfio llwyau
  • Gwersyllgrefft
  • Cylymau
  • Rhoi cynnig ar Dameidiau o Wylltgrefft
  • Ysgol Goedwig
  • Ysgol Traeth
  • Bathodynnau ar gyfer Brownies, Geidiaid, Sgowtiaid a Cubs
  • Gwersylla
  • Grwpiau Chwarae
  • Addysg GTPM, Awyr Agored ac Amgen
  • Meithrinfeydd
  • Clybiau ieuenctid
  • Sesiynau Chwarae
  • Clybiau Gwyliau
  • Chwarae dychmygol
  • Caneuon
  • Gemau
  • Cerdd y Coed
  • Creu Offerynnau
  • Straeon y Goedwig
  • Geiriau y Coed
  • Mae Elfennau Gwyllt yn cynnig nifer o gymwysterau achrededig a di-achrededig i gynnig profiad gwaith i bobl, eu helpu i gynyddu sgiliau a’u helpu i ddod o hyd i waith. Darganfod mwy