Yn cysylltu pobl â natur, yn gwella bywydau, cyfleoedd a dyheadau
Cysylltwch â Ni
Mae croeso i chi gysylltu ag Elfennau Gwyllt ynglŷn ag unrhyw archebion, cwestiynau, prosiectau, partneriaethau cydweithredol neu i roi adborth am unrhyw un o’n gwasanaethau drwy:
Rivendell Building, Bangor University Treborth Botanic Garden, Bangor, Gwynedd, LL57 2RQ
07799 566533
info@wildelements.org.uk


Yr ydych yma: Cwestiynau Cyffredinol
Cwestiynau Cyffredinol
A: Mae Elfennau Gwyllt yn sefydliad dielw lleol a chwmni buddiant cymunedol (CIC) sy’n canolbwyntio ar yr amgylchedd, addysg, pobl, cymunedau a natur. Ein cenhadaeth yw cael pobl o bob oed allan yn yr awyr agored a’u cysylltu â natur, gwella eu bywydau, cyfleoedd a dyheadau.
Mae Elfennau Gwyllt yn gweithio ar draws y 6 sir yng ngogledd Cymru, yn bennaf mewn ardaloedd difreintiedig. Rydym yn cynnig ystod eang o wasanaethau pwrpasol, sy’n hyblyg, yn hwyl, yn addysgol, ac wedi’u cynllunio i ddiwallu anghenion ein cynulleidfaoedd targed.
Mae’r holl elw a godir drwy ein gwasanaethau yn cael ei ail-fuddsoddi yn y sefydliad i sicrhau y gall Elfennau Gwyllt barhau i gyfoethogi cymunedau lleol a helpu unigolion i elwa mewn meysydd fel cyfathrebu, hyder, cyflogadwyedd a rhagolygon bywyd yn yr hirdymor.
A: Pob math ar gyfer pob oedran! Mae Elfennau Gwyllt yn darparu ystod eang o weithgareddau a darpariaethau pwrpasol ar gyfer ysgolion, busnesau corfforaethol (NEWYDD!), teuluoedd, unigolion o bob oed, cymunedau a grwpiau cymunedol, gan gynnwys:
- Darpariaethau corfforaethol - Adeiladu Tîm, ROOTS (llesiant staff a lleihau absenoldeb oherwydd salwch) ac Olion Traed Gwyrdd (lleihau ôl-troed carbon)
- Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP)
- Hyfforddiant a chymwysterau achrededig a ddi-achrededig mewn Garddwriaeth, Cadwraeth, Yr Amgylchedd, Cyllidebu, Hyder, Gwaith Tîm ac Iechyd a Diogelwch
- Cyfleoedd cyflogadwyedd a gwirfoddoli
- Rhaglenni dysgu awyr agored a rhaglenni addysg STEM ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd a grwpiau plant
- Gerddi synhwyraidd a gerddi cymunedol
- Gwyrddfannau gwyllt
- Digwyddiadau cymunedol , gwyliau, diwrnodau hwyl a gweithgareddau teuluol ar draws gogledd Cymru
- Partïon pen-blwydd coetir ar gyfer OEDOLION (NEWYDD) a PHLANT
- Cynlluniau chwarae awyr agored, clybiau gwyliau plant a Chylch Chwarae Natur
- Ysgolion Coedwig ac Ysgolion Traeth
- Sesiynau garddio ymarferol
- Prosiectau cymunedol ac allgymorth
- Gwylltgrefft Saethyddiaeth, adeiladu cuddfannau, coginio awyr agored, tracio, chwilota bwyd gwyllt, crefft gwersylla
- Gwersylla
- Prosiectau partneriaeth
- Profiadau cysylltu â natur
- Clybiau gwyddoniaeth
- Clwb Swyddi
A: Ein horiau swyddfa yw 9.00am-5.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae gwasanaethau Elfennau Gwyllt ar gael unrhyw adeg o’r dydd, gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc.
A: Mae swyddfa Elfennau Gwyllt wedi’i lleoli yng Ngardd Fotaneg Treborth (cyfeiriad isod) Prifysgol Bangor, er bod y sefydliad yn gweithio ar draws sawl safle ledled gogledd Cymru::
Swyddfa Elfennau Gwyllt
Adeilad Rivendell
Gardd Fotaneg Treborth
Prifysgol Bangor
Bangor
Gwynedd
LL57 2RQ
A: Archebwch drwy e-bost, ffôn, Facebook, Twitter neu’r dudalen cysylltwch â ni a darparwch y wybodaeth ganlynol:
- Pa sesiwn / sesiynau pwrpasol y mae gennych ddiddordeb ynddynt
- Unrhyw ofynion (ee lleoliad, gweithgareddau, addasiadau)
- Eich manylion cyswllt
- Nifer y cyfranogwyr a’u hystod oedran
- Dyddiadau ac amserau dewisol
Byddwn yn gwirio ein hargaeledd ac yn cysylltu â chi i drafod manylion pellach.
A: Dilynwch y ddolen i’r dudalen we briodol a chliciwch ar y botwm ‘Archebwch Ar-lein’ i gwblhau’r ffurflen archebu:
- Clwb Gwyllt yn y Coed (8+ oed)
- Gweilch y Coed (5-8 oed)
- Cylch Chwarae Natur
- partïon pen-blwydd coetir OEDOLION a PHLANT
- Digwyddiadau i ddod
A: Mae rhaglenni Ysgol Goedwig ac Ysgol Traeth yn cael eu cynnal dros 6 wythnos o leiaf ac yn cael eu harchebu gan ysgolion a grwpiau plant (ee brownis, sgowtiaid, clybiau ieuenctid). Os hoffech i’ch plentyn fynychu rhaglen Ysgol Goedwig neu Draeth, cysylltwch â’ch arweinydd ysgol neu grŵp lleol a throsglwyddwch ein manylion.
BACS, PayPal, siec ac arian parod
- BACS: Cysylltwch ag Elfennau Gwyllt dros y ffôn neu e-bost a byddwn yn rhoi’r wybodaeth berthnasol i chi.
- PayPal: Codir taliadau ychwanegol.
- Arian parod: Peidiwch ag anfon arian parod drwy’r post. Os ydych am dalu gydag arian parod, ewch i’r swyddfa cyn dyddiad y sesiwn i wneud eich taliad. Argymhellir yn gryf eich bod yn ein ffonio ar 07799 566533 cyn ymweld i wneud yn siŵr bod aelod o staff yn y swyddfa i’ch cyfarch.
- Siec: Gwnewch sieciau’n daladwy i “WILD ELEMENTS CIC” ac anfonwch y siec ynghyd â chopi wedi’i argraffu o’r ffurflen archebu ar-lein wedi’i llenwi i’r cyfeiriad isod cyn dyddiad y sesiwn.
Swyddfa Elfennau Gwyllt
Adeilad Rivendell
Gardd Fotaneg Treborth
Prifysgol Bangor
Bangor
Gwynedd
LL57 2RQ
A: Yn gyffredinol, nid yw ffioedd yn cael eu had-dalu oherwydd salwch neu ganslo munud olaf, er y gallwn gynnig sesiwn arall a chedwir yr hawl i ddefnyddio ein disgresiwn yn dibynnu ar yr amgylchiadau. Ni fydd canslad o fewn wythnos cyn y cynllun chwarae yn gymwys i gael ad-daliad. Edrychwch ar ein polisi canslo llawn.
A: Mae cot law, trowsus glaw, dillad cynnes, menig, esgidiau cadarn a newid dillad yn hanfodol rhag ofn y bydd tywydd gwael. Ceisiwch osgoi denim gan fod hyn yn dal dŵr.
Mae angen pecyn cinio, diodydd a byrbrydau hefyd.
N.B - Peidiwch â dod â ffonau, dyfeisiau MP3, na dyfeisiau electronig / digidol gan nad yw Elfennau Gwyllt yn cymryd cyfrifoldeb am unrhyw eitemau a gollwyd neu a ddifrodwyd yn ystod cynllun chwarae.
A: Mwy na thebyg! Mae Elfennau Gwyllt yn cofleidio’r awyr agored - glaw, hindda neu eira! Yn achos tywydd eithafol, gellir canslo sesiynau oherwydd iechyd a diogelwch. Dilynwch Elfennau Gwyllt ar gyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau yn ystod tywydd gwael neu cysylltwch â ni.
A: Ddim os byddai’n well gennych gael Pitsa Pen-blwydd Tanwydd Coedwig! Gall y plant wneud Pitsas tanwydd Coedwig eu hunain fel gweithgaredd ar gyfer eu pen-blwydd 3-4 awr a ‘smores’ fel rhan o’r seremoni gloi. Os nad ydych chi eisiau pitsa pen-blwydd yn y coetir, bydd angen i chi ddarparu bwyd eich hun. Gellir dod â bwyd parti ar y safle awr cyn i’r parti ddechrau.
A: Ydym - ac mae’n nhw wedi eu llenwi ag eitemau neu weithgareddau naturiol, addysgol, wedi’u hailgylchu ac wedi’u gwneud gartref! Mae dewis o fagiau parti ar gyfer 0-3, 4-11 a 12+ oed. Pris bagiau parti yw £2- £5 y plentyn.
A: Gallwch! Ar yr amod eich bod yn talu pris llawn y parti pen-blwydd neu’r blaendal ymlaen llaw ac yn rhoi gwybod i ni am niferoedd bras, byddwn yn derbyn arian parod neu siec ar y diwrnod ar gyfer pitsas a / neu fagiau parti. Archebwch eich parti yma.
A: CA1, CA2 a CA3, yn ogystal ag oedolion a phobl ifanc! Rydym yn teilwra sesiynau a phwnc i anghenion, lefelau a galluoedd unrhyw ddosbarth neu grŵp ac yn addasu sesiynau i gwmpasu unrhyw bynciau penodol sy’n ofynnol.
Addysgir y pwnc trwy gymysgedd o brofiadau ymarferol yn yr ystafell ddosbarth ac yn yr awyr agored, ymarferion, arbrofion a gemau, a gynhelir mewn grwpiau ac yn unigol.
Cysylltwch â ni i drafod eich gofynion.
A: Mae sesiynau pwrpasol yn golygu prisiau pwrpasol! Mae costau’n amrywio yn dibynnu ar hyd y sesiwn, y gweithgareddau dan sylw, nifer y mynychwyr a demograffeg y bobl sy’n mynychu’r sesiwn. Darperir gostyngiadau ar gyfer archebion lluosog. Cysylltwch â ni i drafod eich gofynion.
Fel menter gymdeithasol ddielw, rydym yn deall bod cyllidebau’n dynn yn ystod cyfnodau o lymder ac yn cynnig gostyngiadau ar gyfer archebion lluosog, elusennau a sefydliadau trydydd sector. Rydym hefyd yn gwneud ein gorau i weithio o fewn cyllideb unrhyw un sydd am drefnu sesiwn gyda ni. Cysylltwch â ni gyda’ch gofynion cyllidebol a byddem yn darparu ar eich cyfer ble y gallwn.
A: Oherwydd ein moeseg, ein hethos a’n heffaith, heb sôn am ein tîm hynod gymwys, angerddol a phrofiadol a’r gwaith rydym yn ei wneud gyda phlant, oedolion, ysgolion a chymunedau! mwy…
Trwy ddewis Elfennau Gwyllt, rydych chi’n cefnogi cymunedau lleol a difreintiedig, oedolion, plant, natur a’r amgylchedd wrth helpu sefydliad lleol ar lawr gwlad i barhau â’i waith gwych. Sut? Fel sefydliad dielw a chwmni buddiant cymunedol, mae’r holl elw a godwn yn cael ei ail-fuddsoddi yn ôl i’r sefydliad i sicrhau y gall Elfennau Gwyllt barhau i gyfoethogi cymunedau ledled gogledd Cymru a helpu unigolion i elwa mewn meysydd fel cyfathrebu, hyder, cyflogadwyedd a rhagolygon bywyd yn y tymor hir.
Dal heb eich argyhoeddi? Edrychwch ar ein Tystebau, Ein Prosiectau Diweddaraf, Ein Gwaith, Cyfrannwch neu dewch i gyfarfod y tîm, i weld mwy!
English
07799 566533 info@wildelements.org.uk