Yn cysylltu pobl â natur, yn gwella bywydau, cyfleoedd a dyheadau
Cysylltwch â Ni
Mae croeso i chi gysylltu ag Elfennau Gwyllt ynglŷn ag unrhyw archebion, cwestiynau, prosiectau, partneriaethau cydweithredol neu i roi adborth am unrhyw un o’n gwasanaethau drwy:
Rivendell Building, Bangor University Treborth Botanic Garden, Bangor, Gwynedd, LL57 2RQ
07799 566533
info@wildelements.org.uk
Yr ydych yma: Corfforaethol a DPP
Corfforaethol a DPP
Cynyddu sgiliau a chynhyrchiant y gweithlu, lleihau absenoldeb salwch, gwella lles, morâl a chydlyniad tîm neu leihau ôl troed carbon
Mae Elfennau Gwyllt yn cynnig nifer o ddarpariaethau corfforaethol i helpu cwmnïau a sefydliadau i wella sgiliau a lles staff.
Gall busnesau hefyd ddewis y Pecyn Gwyllt - cyfuniad o ddarpariaethau Elfennau Gwyllt wedi’u teilwra i’ch busnes a’ch anghenion staff. Cysylltwch â ni i drafod y gofynion.
Yn dibynnu ar y rhaglen a ffafrir, gall Elfennau Gwyllt ddarparu sesiynau mewn gweithleoedd neu yn un o’n safleoedd.
Ar gyfer athrawon, arweinwyr grwpiau, pobl sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion, ac unrhyw un sy’n gyfarwydd ag Adroddiad Donaldson!
Mae Elfennau Gwyllt yn arbenigo mewn addysg amgen ac addysg awyr agored, sy’n ein gwneud yn ddewis delfrydol ar gyfer hyffroddiant DPP i unrhyw rai sy’n awyddus i gyflwyno yr awyr agored a natur mewn modd gwefreiddiol i’w cynulleidfaoedd.
Mae ein hyfforddiant DPP achrededig a di-achrededig yn eich galluogi i wau sgiliau bywyd sylfaenol a sgiliau hanfodol i ymgysylltu â gweithgareddau awyr agored i gefnogi datblygiad personol, cymdeithasol ac addysgol eich cynulleidfa… (darllenwch fwy)
Ar gyfer pob cwmni amgylcheddol gyfrifol, corfforaethau,ysgolion a sefydliadau sydd eisiau gwneud gwahaniaeth i’r amgylchedd a gwella lles cwsmeriaid, staff, disgyblion a defnyddwyr gwasanaeth. Trawsnewidiwch mannau gwyrdd di-nod, mannau cysgodol, corneli mwdlyd, a tharmac a choncrit di-liw a di-fywyd yn fannau lliwgar sy’n byrlymu gyda natur, am gost isel gyda lleiafrif o waith cynnal gydag Olion Traed Gwyrddach… (darllenwch fwy)
Beth yw’r gost o straen ac anweithgarwch i’ch busnes CHI? Mae’r Ganolfan Iechyd Meddwl yn amcangyfrif bod cost ariannol salwch meddwl i fusnesau Prydain oddeutu £26 biliwn y flwyddyn, sy’n cyfateb i £1,035 i bob gweithiwr. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn nodi bod diffyg gweithgarwch corfforol yn arwain at ganlyniadau iechyd sylweddol ac yn costio tua £ 7.4 biliwn y flwyddyn i economi’r DU.
Mae gwreiddiau yn seiliedig ar ymchwil wyddonol a’i nod yw cynyddu lles a chynhyrchiant y gweithlu trwy gyswllt â natur, gwella perfformiad, lleihau straen, lleihau absenoldeb salwch a… (darllenwch fwy)
Datblygu gweithlu gydag ysbryd tîm, cynyddu ymddiriedaeth a chyfathrebu a creu y gweithle yn lle hapusach a mwy cynhyrchiol, gyda chwrs adeiladu tîm am 1-3 diwrnodgydag Elfennau Gwyllt.
Treuliwch ddiwrnod o natur, gan ymarfer y cysyniadau sy’n gwneud tîm effeithiol trwy weithgareddau adeiladu tîm anarferol ac ymarferion sy’n adeiladu ymddiriedaeth, annog datrys problemau a chyfathrebu a gwella lles… (darllenwch fwy)
English
07799 566533 info@wildelements.org.uk