Yn cysylltu pobl â natur, yn gwella bywydau, cyfleoedd a dyheadau
Cysylltwch â Ni
Mae croeso i chi gysylltu ag Elfennau Gwyllt ynglŷn ag unrhyw archebion, cwestiynau, prosiectau, partneriaethau cydweithredol neu i roi adborth am unrhyw un o’n gwasanaethau drwy:
Rivendell Building, Bangor University Treborth Botanic Garden, Bangor, Gwynedd, LL57 2RQ
07799 566533
info@wildelements.org.uk


Yr ydych yma: Clybiau Gwyliau, Cynlluniau Chwarae a Grŵp Chwarae Natur > Cynllun Chwarae Hau Hadau
Cynllun Chwarae Hau Hadau
Yma yn Elfennau Gwyllt rydym yn annog plant ac oedolion i ymgysylltu â’r awyr agored, ac i ddysgu a gofalu am yr amgylchedd naturiol o’u hamgylch.
Rydym wedi cynllunio rhaglen chwe wythnos ar gyfer plant 1-5 mlwydd oed, i’w cyflwyno i natur, a’u hannog i archwilio a darganfod yr amgylchedd o’u hamgylch. Bydd pob sesiwn yn cyflawni’r 7 maes dysgu o fewn y cwricwlwm gan gynnig 3-4 gweithgaredd dros gyfnod o ddwy awr a hanner. Bydd hyn yn cynnwys byrbryd iach a diod tra bydd y plant yn gwrando ar stori thematig.
- Mae’r wythnos gyntaf i gyd yn ymwneud ag archwilio a chyflwyno’r plant i ni fel tîm yn ogystal â’r math o weithgareddau y byddent yn eu gwneud.
- Mae’r ail wythnos yn edrych ar gyflwyno pob math o anifeiliaid.
- Ar gyfer y drydedd wythnos, mae cyfle i’r plant greu sŵn!
- Mae’r bedwaredd wythnos yn annog y plant i feddwl mwy am sain a beth y gallent ei glywed wrth fynd am dro.
- Yn ystod y bumed wythnos bydd y plant yn archwilio natur yn ddyfnach, gan weld be ellir ei ddarganfod.
- Bydd yr wythnos olaf yn ddathliad o’r pum wythnos flaenorol, gan gychwyn gyda’r cyfle i greu llanast
Os oes gennych rywbeth penodol yr hoffech ei gynnwys neu os oes unrhyw newidiadau yr hoffech ei wneud, fe wnawn ein gorau i gwrdd â’ch anghenion!
Cysylltwch â Ni am fwy o wybodaeth
English
07799 566533 info@wildelements.org.uk