Yn cysylltu pobl â natur, yn gwella bywydau, cyfleoedd a dyheadau
Cysylltwch â Ni
Mae croeso i chi gysylltu ag Elfennau Gwyllt ynglŷn ag unrhyw archebion, cwestiynau, prosiectau, partneriaethau cydweithredol neu i roi adborth am unrhyw un o’n gwasanaethau drwy:
Rivendell Building, Bangor University Treborth Botanic Garden, Bangor, Gwynedd, LL57 2RQ
07799 566533
info@wildelements.org.uk


Yr ydych yma: Clybiau Gwyliau, Cynlluniau Chwarae a Grŵp Chwarae Natur
Clybiau Gwyliau, Cynlluniau Chwarae a Grŵp Chwarae Natur
Mae Clybiau Gwyliau wedi’u canslo oherwydd covid-19
Hwyl ac archwilio ymarferol yn y gwyllt ar gyfer plant 0-15 oed
Gadewch i’ch plentyn archwilio, profi a darganfod rhyfeddodau natur gyda thîm Elfennau Gwyllt. Bydd ein cynlluniau chwarae’n cyfoethogi bywyd eich plentyn gyda gemau, chwarae dychmygol, gweithgareddau dysgu cyffrous ac ystod o brofiadau cysylltu â natur.
0-5 oed Bydd Cylch Chwarae Natur yn ennyn brwdfrydedd eich plentyn a’u cariad tuag at natur drwy chwarae, archwilio a dysgu’n rhydd yn y goedwig gyda phlant eraill… darllenwch mwy/ archebion
5-7 oed Mae Gweilch y Coed yn gynllun chwarae dan arweiniad y plentyn sy’n caniatáu iddynt bennu’r cyflymdra, dewis y gweithgareddau a chael dweud eu dweud ynglŷn â’r gemau a chwaraeir… darllenwch mwy/ archebion
8+ oed Mae Clwb Gwyllt yn y Coed yn gynllun chwarae dan arweiniad y plentyn sy’n caniatáu iddynt ddilyn y gweithgareddau a ddewiswyd ganddynt, cynllunio trefn y sesiwn a gweithio ag eraill i ddysgu am gyfaddawdu a thegwch… darllenwch mwy/ archebion
Mae pob cynllun chwarae Elfennau Gwyllt yn seiliedig ar ethos yr Ysgol Goedwig, sy’n annog plant i arwain eu profiad eu hunain drwy ddewis gweithgareddau ar lefel unigol a grŵp er mwyn annog grymuso, cyfaddawdu a gwneud dewisiadau personol.
Mae’r rhaglenni hefyd yn datblygu galluoedd emosiynol, sgiliau cymdeithasol a gwerthfawrogiad dyfnach o natur.
Cynhelir y sesiynau yng Nghoetir Castell Penrhyn [Cyfarwyddiadau - i ddilyn yn fuan]. Mae archebu’n hanfodol.
I weld copi diweddaraf o Adolygiad Blynyddol o Ansawdd y Gofal Elfennau Gwyllt cysylltwch â info@wildelements.org.uk
- Cegin fwd
- Adeiladu ffau
- Gemau coetir
- Celf a chrefft
- Cylch tân
- Dringo coed
- Dweud stori
- Chwarae rhydd / dychmygol
- Celf mwd
- Archwilio natur
- Helfa chwilod
- Caneuon
- Coginio yn yr awyr agored
- Gwylltgrefft a llawer mwy!
- Please wear appropriate clothing and footwear:
- Cofiwch wisgo dillad ac esgidiau addas:
- Côt (côt law os yn bosibl)
- Esgidiau addas
- Dillad dal dŵr (os yn bosibl)
- Sannau sbâr
- Het a menyg (ar gyfer y tywydd oer)
- Cofiwch ddod â phecyn bwyd gan y byddem yn yr awyr agored trwy’r dydd!
English
07799 566533 info@wildelements.org.uk