Yn cysylltu pobl â natur, yn gwella bywydau, cyfleoedd a dyheadau

background

Cysylltwch â Ni


Mae croeso i chi gysylltu ag Elfennau Gwyllt ynglŷn ag unrhyw archebion, cwestiynau, prosiectau, partneriaethau cydweithredol neu i roi adborth am unrhyw un o’n gwasanaethau drwy:

Rivendell Building, Bangor University Treborth Botanic Garden, Bangor, Gwynedd, LL57 2RQ

07799 566533

info@wildelements.org.uk

background
sub-page-main-image

Yr ydych yma: Clybiau, Cyflogadwyedd, Hyfforddiant a Gwirfoddoli > Rhaglenni Hyfforddi Achrededig a Di-achrededig

Rhaglenni Hyfforddi Achrededig a Di-achrededig

Darperir Elfennau Gwyllt hyfforddiant ar gyfer pob angen, oedran a gallu.

Training

Mae Elfennau Gwyllt yn cynnig rhaglenni hyfforddi a Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) achrededig a di-achrededig. Ategir rhaglenni hyfforddi gan ethos yr Ysgol Goedwig, sy’n caniatáu i bobl dilyn eu profiad dysgu drwy ddewis eu gweithgareddau ar sail unigolion a grwpiau er mwyn annog grymuso, cyfaddawdu, gwneud penderfyniadau personol, ac adeiladu hyder.

Mae’r holl raglenni hyfforddi yn ymarferol er mwyn datblygu sgiliau caled a meddal ac yn cynnig profiad gwaith ar draws sawl maes, gyda llawer o gyrsiau’n rhedeg yn olynol i bwysleisio llwybrau gyrfa ac i gynyddu sgiliau mewn meysydd penodol. Mae rhaglenni hyfforddi achrededig hefyd yn annog hunan-fyfyrio ar ymddygiadau personol er mwyn adnabod meysydd ar gyfer datblygiad personol ac ysbrydoli newidiadau cadarnhaol.

Mae rhaglenni Elfennau Gwyllt, sy’n cynnwys gweithgareddau hwyliog ac amgen, wedi’u cynllunio i:

  • Cynyddu sgiliau meddal, e.e. gweithio mewn tîm, hyder, cyfathrebu, hunan-barch
  • Gwella sgiliau hanfodol, e.e. rhifedd, meddwl yn feirniadol, TG, ymchwil, a datrys problemau

Mae Elfennau Gwyllt hefyd yn cynnig mentora proffesiynol a chyngor gyrfaol.

Mae’r cymwysterau y mae Elfennau Gwyllt yn eu darparu wedi’u hachredu gan Agored Cymru ac yn amrywio o Lefel Mynediad 1 i Lefel 3 (eglurir lefelau).

Mae costau hyfforddiant yn amrywio ac yn ddibynnol ar y cymhwyster, a yw’r hyfforddiant wedi’i achredu, nifer y credydau / unedau, nifer yr hyfforddeion, hyd y cwrs a’r gweithgareddau gofynnol. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.

Cymwysterau Achrededig

Lefel Mynediad 1 - Lefel 2

  • Cyllidebu
  • Codi Hyder
  • Ecoleg
  • Yr Amgylchedd
  • Iechyd a Diogelwch
  • Garddwriaeth
  • Datblygiad Personol
  • Gwethio mewn tîm

Lefel 3

Caiff rhaglenni hyfforddi Elfennau Gwyllt eu hachredu gan Agored Cymru drwy TEC Wales. Fel canolfan gofrestredig Agored Cymru, mae TEC Wales yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau i gysylltu eu darpariaeth ag unedau a chymwysterau achrededig.