Yn cysylltu pobl â natur, yn gwella bywydau, cyfleoedd a dyheadau
Cysylltwch â Ni
Mae croeso i chi gysylltu ag Elfennau Gwyllt ynglŷn ag unrhyw archebion, cwestiynau, prosiectau, partneriaethau cydweithredol neu i roi adborth am unrhyw un o’n gwasanaethau drwy:
Rivendell Building, Bangor University Treborth Botanic Garden, Bangor, Gwynedd, LL57 2RQ
07799 566533
info@wildelements.org.uk


Yr ydych yma: Amdanom > Polisi Dileu
Polisi Dileu

Mae Elfennau Gwyllt yn gwerthfawrogi nad yw pethau’n dilyn cynllun pob tro ac mae angen canslo weithiau. Os oes angen i chi ganslo sesiwn, lle mewn digwyddiad Elfennau Gwyllt, Clwb Gwyliau neu Gylch Chwarae Natur, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl fel y gallwch.
Mae Polisïau Canslo ar gyfer Clybiau Gwyliau, Cylch Chwarae Natur a digwyddiadau, gweithgareddau a sesiynau hyfforddi isod. Yn anffodus, ni all Elfennau Gwyllt neilltuo neu gadw llefydd heb daliad.
Sylwer, os ydych chi’n archebu ar sail ‘early bird’, mae’r dyddiad cau yn berthnasol i bryd mae Elfennau Gwyllt yn derbyn y ffurflen, nid pan fydd y ffurflen wedi’i dyddio / cwblhau.
Er mwyn gwarantu lle eich plentyn mewn clwb gwyliau, dylid talu ffioedd ymlaen llaw ac yn llawn am y nifer gofynnol o ddyddiau / wythnosau.
Os yw plentyn yn hwyr ar gyfer sesiwn sy’n gofyn am daith gerdded o’r man gollwng i’r safle digwyddiad bydd dau aelod o staff Elfennau Gwyllt yn ceisio cysylltu â’r rhiant / gwarchodwr a byddent yn aros am y plentyn am hyd at ugain munud. Os nad yw’r plentyn wedi cyrraedd o fewn ugain munud ac nid yw’r rhiant wedi ein hysbysu, caiff ei drin fel canslad hwyr, a bydd ein staff yn dychwelyd i’r safle. Bydd rhieni sy’n cyrraedd ar ôl hyn yn gyfrifol am ddod â’u plentyn i’r safle o’r man gollwng.
Yn gyffredinol, ni ad-delir ffioedd oherwydd salwch neu ganslo munud olaf. Fodd bynnag, gellir cynnig dyddiadau amgen yn ei lle, ac rydym yn cadw’r hawl i ddefnyddio ein disgresiwn.
I warantu lle eich plentyn yng Nghylch Chwarae Natur, dylid talu ffioedd ymlaen llaw ac yn llawn am y nifer gofynnol o ddyddiau / wythnosau. Fel arall, gallwch droi fyny ar y diwrnod, er nad oes sicrwydd o le.
Yn gyffredinol, ni ad-delir ffioedd oherwydd salwch neu ganslo munud olaf. Fodd bynnag, gellir cynnig dyddiadau amgen yn ei lle, ac rydym yn cadw’r hawl i ddefnyddio ein disgresiwn.
I warantu eich lle / llefydd mewn sesiwn Elfennau Gwyllt, dylid talu ffioedd ymlaen llaw ac yn llawn am y nifer gofynnol o ddyddiau / wythnosau.
Ad-delir cansladau o fewn 6 wythnos i’r digwyddiad, minws ffi weinyddol o £5.
Yn gyffredinol, ni ad-delir ffioedd oherwydd salwch neu ganslo munud olaf. Fodd bynnag, gellir cynnig dyddiadau amgen yn ei lle, ac rydym yn cadw’r hawl i ddefnyddio ein disgresiwn.
Yn gyffredinol, ni ad-delir canslo munud olaf ar gyfer archebion hyfforddiant, gweithgareddau awyr agored, ysgolion, grwpiau a digwyddiadau cymunedol, er y gellir cynnig dyddiadau amgen yn ei lle, ac rydym yn cadw’r hawl i ddefnyddio ein disgresiwn. Canslo o fewn:
- 6 wythnos neu fwy; ni fydd taliad
- 4-5 wythnos; codir tâl o 25%
- 2-3 wythnos; codir tâl o 50%
- llai na’ wythnos; codir tâl o 75%
Ar gyfer ad-daliadau siopau, ewch i Siop Elfennau Gwyllt
English
07799 566533 info@wildelements.org.uk