Yn cysylltu pobl â natur, yn gwella bywydau, cyfleoedd a dyheadau
Cysylltwch â Ni
Mae croeso i chi gysylltu ag Elfennau Gwyllt ynglŷn ag unrhyw archebion, cwestiynau, prosiectau, partneriaethau cydweithredol neu i roi adborth am unrhyw un o’n gwasanaethau drwy:
Rivendell Building, Bangor University Treborth Botanic Garden, Bangor, Gwynedd, LL57 2RQ
07799 566533
info@wildelements.org.uk


Yr ydych yma: Amdanom > Ein Safleoedd
Ein Safleoedd
Safleoedd dros siroedd Gogledd Cymru
Mae gan Elfennau Gwyllt sawl safleoedd ac meant yn gweithio mewn partneriaeth gyda nifer o sefydliadau i gyflwyno gweithgareddau. Hefyd, mae Elfennau Gwyllt yn darparu allgymorth ar safle o ddewis ar yr amod bod iechyd a diogelwch a chaniatâd yn ei le.
Safleoedd Elfennau Gwyllt:
- Carreglwyd, Ynys Môn
- Gardd Adeilad Rivendell, Bangor
- Gardd Fotaneg Treborth Prifysgol Bangor
- Gardd Gudd, Castell Penrhyn, Bangor
- Gwyllt yn y Coed, Coedwig Castell Penrhyn, Bangor
Mae safleoedd partner a ddefnyddir yn rheolaidd yn cynnwys:
- Canolfan Ucheldre, Ynys Môn
- Chwarel Minera, Wrecsam
- Llyfrgell Gladstone, Penarlâg, Sir y Fflint
- Llyfrgelloedd ar draws Gogledd Cymru
- Llyn Parc Mawr, Ynys Môn
- Parc Gwledig y Morglawdd, Caergybi
- Parc Wepre, Sir y Fflint
- Plas Newydd, Ynys Môn
Cyfarwyddiadau i Swyddfa Elfennau Gwyllt:
O gyfeiriad Bangor, anelwch am Borthaethwy, a chymerwch yr ail allanfa yng nghylchfan Tafarn yr Antelope. Cyn mynd dros y bont, trowch i’r chwith a dilynwch y ffordd heibio Stad Ddiwydiannol Parc Busnes Treborth. Ewch yn eich blaen gan fynd heibio lawntiau’r Ardd Fotaneg ar y dde a’r ‘polytunnel’ a’r tai gwydr ar y chwith. Ewch ymlaen am ychydig hyd nes cyrraedd Adeilad Rivendell, lle mae swyddfa Elfennau Gwyllt ar yr ail lawr.
Cyfarwyddiadau i Goetir Castell Penrhyn:
Mae mynedfa Castell Penrhyn wedi’i leoli ar Ffordd Llandygai, ac mae’r safle wedi’i arwyddo o Gyffordd 11 yr A55 a’r A5 (Sat Nav LL57 4HT). Wedi cyrraedd y fynedfa, ewch drwy borth bwaog y porthdy a dilynwch y ffordd. Bydd y ffordd yn troi am y dde ac fe geir cilfan ar y chwith. Wrth y gilfan ceir llwybr sy’n arwain at ein safle Coetir Castell Penrhyn. Dyma’r man gollwng / codi i rieni hefyd.
Parcio:
Ar ôl mynd trwy’r porthdy, trowch i’r dde ar unwaith, ble mae lle i 2-3 car barcio.
English
07799 566533 info@wildelements.org.uk