Yn cysylltu pobl â natur, yn gwella bywydau, cyfleoedd a dyheadau
Cysylltwch â Ni
Mae croeso i chi gysylltu ag Elfennau Gwyllt ynglŷn ag unrhyw archebion, cwestiynau, prosiectau, partneriaethau cydweithredol neu i roi adborth am unrhyw un o’n gwasanaethau drwy:
Rivendell Building, Bangor University Treborth Botanic Garden, Bangor, Gwynedd, LL57 2RQ
07799 566533
info@wildelements.org.uk


Yr ydych yma: Amdanom > Ein Cenhadaeth ac Ein Hamcanion
Ein Cenhadaeth ac Ein Hamcanion

Amcanion Elfennau Gwyllt
- Dosbarthu profiadau awyr agored ac addysg ar gyfer pob oed er mwyn creu cymunedau mwy gwydn a deallus gyda gwerth cymdeithasol uwch
- Darparu addysg awyr agored ac amgylcheddol ar gyfer ysgolion a chymunedau
- Hyrwyddo natur er mwyn cyfoethogi bywyd dynol, hyrwyddo datblygiad personol, gwella budd personol, cynyddu sgiliau, dyheadau a chyfleon, ac yn helpu pobl i mewn i waith
- Lledu estyniad Elfennau Gwyllt tros Ogledd Cymru
Am Elfennau Gwyllt
Pwyntiau Gwerthu Unigryw (PGU) Elfennau Gwyllt:
- Yn cynnig sawl gweithgaredd i’r pwrpas, sydd yn hyblyg, hwyl, addysgol ac wedi eu cynllunio i gyflawni anghenion unigolion, grwpiau a chymunedau
- Yn darparu gweithgareddau mewn sawl lleoliad gyda chynefinoedd gwahanol
- Yn gallu eich helpu a chymhorthi i ddatblygu eich safle awyr agored eich hun
- Yn coelio fod gweithio mewn partneriaeth yn cynhyrchu canlyniadau mwy effeithiol
- Yn darparu gwasanaethau gydag ethos Ysgol Coedwig, yn caniatáu i unigolion gynyddu eu hunanhyder
Ein Hethos
I ategu at, nid i gystadlu, i weithio mewn partneriaeth, ynghyd ag ethos yr Ysgol Goedwig o ddysgu hunan-arweiniol, gwneud penderfyniadau personol, grymuso, creadigrwydd a dychymyg, hyn yw sail ein holl ymdrechion.
Ein Llywodraethant ac Ein Tîm
Mae 6 cyfarwyddwr yn goruchwylio’r corff ac ein tîm o staff, isgontractwyr a gwirfoddolwyr cymhwysiedig a phrofiadol. Cyfarfod y Tîm
Ein Gwaith
Mae gennym gofnod llwyddiannus o ddarparu addysg awyr agored, prosiectau awyr agored, prosiectau cyflogadwyedd, a helpu pobl i mewn i gyflogaeth, addysg a gwirfoddoli drwy gynyddu eu sgiliau, cymwysterau, rhagolygon a hyder. Yr ydym yn darparu:
- Cyrsiau achrededig i oedolion a phobl ifanc yn sail ar yr amgylchedd, garddwriaeth, ecoleg, cyllideb, gweithio mewn tîm, a hyder
- Rhaglenni addysgol STEM sy’n berthnasol i’r cwricwlwm (gwyddoniaeth amgylcheddol, natur, ffiseg, cemeg), sydd yn darparu ychwanegiadau arbenigol i bynciau dosbarth ac yn mewnosod themâu cwricwlaidd trawsbynciol – llythrennedd, rhifedd a TG
Yr ydym hefyd yn cynnig:
- Gweithgareddau sy’n cynnwys: garddio a Chlwb Gwaith, Ysgolion Goedwig a Thraeth, digwyddiadau Crefft Maes, cynllwynion chwarae awyr agored, partïon pen-blwydd yn y goedwig, a chlybiau plant
- Cyfleoedd wirfoddoli
- Staff cymwysedig, gwybodus, digonol sydd â phrofiad hir mewn gweithio gyda phlant ac oedolion
- Gweithgareddau natur ac sy’n berthnasol i’r awyr agored ar gyfer digwyddiadau cymunedol, dyddiau agored/hwyl a.y.b.
- Prosiectau cymunedol amgylcheddol, cyflogadwyedd, ac estyn allan
English
07799 566533 info@wildelements.org.uk