Yn cysylltu pobl â natur, yn gwella bywydau, cyfleoedd a dyheadau
Cysylltwch â Ni
Mae croeso i chi gysylltu ag Elfennau Gwyllt ynglŷn ag unrhyw archebion, cwestiynau, prosiectau, partneriaethau cydweithredol neu i roi adborth am unrhyw un o’n gwasanaethau drwy:
Rivendell Building, Bangor University Treborth Botanic Garden, Bangor, Gwynedd, LL57 2RQ
07799 566533
info@wildelements.org.uk
Yr ydych yma: Amdanom > Cwrdd â'r Tîm
Cwrdd â'r Tîm
Yr unigolion sy’n helpu Elfennau Gwyllt i ragori!
Ni allai Elfennau Gwyllt redeg heb ei dîm o staff, is-gontractwyr a gwirfoddolwyr a’r sgiliau a’r profiad maent yn ei gynnig i’r sefydliad. Mae’r tîm yn cynnwys criw o unigolion hynod gymwysedig ac amryddawn, sy’n meddu ar lawer iawn o gymwysterau a gwybodaeth am ecoleg, yr amgylchedd, cadwraeth, garddwriaeth, amaethyddiaeth, pynciau STEM a dysgu yn yr awyr agored.
Cyfarwyddwr a Sylfaenydd Elfennau Gwyllt
Mae Tom yn un o gyd-sefydlwyr Elfennau Gwyllt, a’i agerdd dros y sefydliad a’i waith yw ei brif gymhelliant. Mae Tom yn goruchwylio’r tîm, gweithgareddau a phrosiectau, ond golyga ei hoffter o’r awyr agored a bod ar y rheng flaen, y bydd yn cymryd pob cyfle i ddarparu sesiynau hyfforddi a chyflogadwyedd, rhaglenni addysgol, DPP, Ysgolion Coedwig a digwyddiadau cymunedol. a digwyddiadau cymunedol glybiau gwyliau! Mae Tom hefyd yn arwain prosiectau hirdymor a datblygiad safleoedd Elfennau Gwyllt.
Mae Tom yn ymddiriedolwr Ysgol Goedwig Cymru, Cadeirydd Grŵp Rhwydwaith Dysgu yn yr Awyr Agored Gwynedd ac yn aelod o Lais y Goedwig, Grŵp Rhwydwaith Dysgu yn yr Awyr Agored Ynys Môn a Rhwydwaith Hyfforddiant Dysgu yn yr Awyr Agored.
Cyfarwyddwr
Sefydlodd Dan GBC yn 2015 gyda’r nod o ddatblygu prosiectau llesiant cymunedol ar draws Gogledd Cymru. Gan rannu ethos tebyg a llawer o’r r’un gwerthoedd, mae wedi gweithio gydag Elfennau Gwyllt ers 2016 yn datblygu prosiect Garddwriaeth er mwyn lles yn Rivendell.
Dros beint o Guinness, yn 2019, gwahoddodd Tom i Dan ddod yn Gyfarwyddwr Elfennau Gwyllt. Bellach mae Dan yn cynorthwyo i oruchwylio’r sefydliad, y datblygiad sefydliadol, cyfeiriad strategol a chynllunio busnes. Mae ganddo flynyddoedd lawer o brofiad yn gweithredu a darparu prosiectau hyfforddant ac mae’n gweithio’n agos gyda sefydliadau sector gyhoeddus a preifat er mwyn datblygu cysylltiadau ar gyfer Elfennau Gwyllt ac mae wedi helpu adeiladu sied neu ddwy.
Cyfarwyddwr
Mae Katy wrth eu bodd gyda’r awyr agored a natur. Dechreuodd Katy wirfoddoli gydag Elfennau Gwyllt yn 2014, ac mae nawr yn un o Gyfarwyddwyr Elfennau Gwyllt, gan gynorthwyo i oruchwylio’r sefydliad, gyda’r datblygiad sefydliadol, cyfeiriad strategol a chynllunio busnes. Mae Katy yn chwarae rhan allweddol mewn cynorthwyo Elfennau Gwyllt i ehangu ar gyfleoedd o weithio mewn partneriaeth ynghyd â phrosiectau amgylcheddol.
Cyfarwyddwr a Sylfaenydd
Mae Phil yn un o gyd-sylfaenwyr gwreiddiol Elfennau Gwyllt, gan rannu’r angerdd am natur, yr awyr agored a choedwigoedd a’r Cyfarwyddwyr eraill. Mae Phil yn cynorthwyo i oruchwylio’r sefydliad, y datblygiad sefydliadol, cyfeiriad strategol a chynllunio busnes. Mae Phil yn hynod wybodus am rywogaethau planhigion, coed ac anifeiliaid, ac yn mwynhau gwaith amgylcheddol ymarferol.
Paramaethwr, Celf a Chrefft, Gwehyddu
Mae Alison, sy’n arddwr hunangyflogedig a Garddwr Coedwig ar liwt ei hun, wedi bod yn ymwybodol o Elfennau Gwyllt ers y dechreuad gan gynorthwyo mewn llawer o weithgareddau a digwyddiadau’r sefydliad. Mae Alison wedi’i hyfforddi mewn sgiliau rheoli tir ymarferol ac wedi gweithio gydag addysg oedolion yn y gymuned. Mae gan Alison ddiddordeb mewn Ysgolion Coedwig, prosiectau amgylcheddol, Gerddi Bwytadwy a dylunio creadigol.
Gwirfoddolwr Marchnata a Chyfathrebiadau
Mae Anwen yn helpu’n bennaf gyda chyfathrebiadau Cymraeg, ysgrifennu negeseuon cyfryngau cymdeithasol a chyfieithiadau. Mae Anwen hefyd yn cefnogi dysgwyr Cymraeg Elfennau Gwyllt i ddatblygu eu sgiliau ieithyddol.
Cynorthwyydd Digwyddiadau a Gweithgareddau
Gweithia Cerys ar draws sawl agwedd o fewn Elfennau Gwyllt, gan gyflwyno sesiynau addysgol, partïon pen-blwydd, digwyddiadau galwadau cymunedol a gweithgareddau i blant a theuluoedd. Mae Cerys yn greadigol, ac yn arwain sesiynau ar gyfer teuluoedd addysg gartref ac hefyd yn gweithio ar gymwysterau achrededig Elfennau Gwyllt.
Swyddog Datblygiadol
Mae cefndir Claudia mewn llyfrgelloedd, marchnata, datblygiad busnes ac mewn busnes gwesty teuluol. Mae Claudia wedi helpu gyda’r broses o ailwampio Elfennau Gwyllt ac yn rhan allweddol o ddatblygu prosiectau, partneriaethau , cyfeiriad strategol a marchnata. Mae Claudia hefyd yn rhoi cymorth i Tom oruchwylio a rheoli tîm Elfennau Gwyllt a’r gwaith dydd i ddydd o redeg y sefydliad.
Cynorthwyydd Digwyddiadau a Gweithgareddau
Gwirfoddolodd Emily gydag Elfennau Gwyllt ac mae bellach yn gweithio gydag Elfennau Gwyllt ar raglenni STEM, Ysgolion Coedwig, digwyddiadau cymunedol, training a Phartïon Pen-blwydd Coetir. Bu Emily yn gweithio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd mewn rheolaeth amgylcheddol, gan arbenigo mewn amaethyddiaeth ac ansawdd dŵr. Yn dilyn hyn gweithiodd gyda Phrifysgol Plymouth yn cefnogi israddedigion mewn labordai a gyda sgiliau gwaith maes a chyflwyno prosiectau STEM yn allanol cyn dychwelyd i Gymru yn 2018.
Gwirfoddolwr Gweinyddiaeth a Golygu
Mae cefndir Denise mewn Amaethyddiaeth Sŵoleg a Rheoleiddio Gwenwyneg. Gweithiodd Denise i DEFRA am y rhan fwyaf o’i gyrfa, ac yn ddiweddaraf fel ysgrifennydd polisïau gwyddonol. Bellach wedi ymddeol, mae Denise yn gwirfoddoli gydag Elfennau Gwyllt fel Cynorthwyydd Gweinyddiaeth a Golygu, gan yn bennaf olygu erthyglau a chyfathrebiadau marchnata gan ei fod yn rhywbeth mae’n ei fwynhau.
Gwirfoddolwr Swyddfa a Gweinyddiaeth
Dechreuodd Hayley wirfoddoli gydag Elfennau Gwyllt yn ôl yn Nhachwedd 2018 gyda chefnogaeth rhaglen OPUS Gwynedd. Mae Hayley yn edmygwr enfawr o natur, ac wrth ei bodd gydag anifeiliaid ac yn mwynhau ymgolli ei hun yng nghoetiroedd Gardd Fotaneg Treborth. Mae Hayley yn helpu yn y swyddfa yn bennaf, gan gadw ystadegau, mewnbynnu data, prosiectau ymchwil a rhoi cymorth gyda gwaith gweinyddol dydd i ddydd. Mae hefyd yn helpu i gynnal a chadw gardd Elfennau Gwyllt yn Rivendell.
Swyddog Cynorthwyol a Marchnata
Dechreuodd Jenn wirfoddoli gydag Elfennau Gwyllt yn 2017 ac mae bellach yn gweithio i Elfennau Gwyllt. Mae Jenn yn gweithio tu ôl i’r llenni, gan ddelio â marchnata a chyfathrebiadau, archebion, digwyddiadau a gwaith gweinyddol, gan helpu gyda phrosiectau yn ogystal. Mae Jenn yn greadigol iawn ac yn gefnogwr brwd o’r celfyddydau, ac mae ganddi syniadau gwych ar gyfer prosiectau. Mae hefyd yn cyd-lynu gwirfoddolwyr Elfennau Gwyllt ac yn ddiweddar mae wedi cychwyn ymgymryd â gweithgareddau datblygu busnes.
Arweinydd Cylch Chwarae, Digwyddiadau a Hyfforddwr
Ymunodd Kirsty, sy’n aelod aml ddoniau arall o’r tîm, gydag Elfennau Gwyllt yn 2018. Mae Kirsty wrth ei bodd yn yr awyr agored, mae’n hynod brofiadol mewn cyflwyno prosiectau a digwyddiadau ac mae’n hyfforddwr ac athrawes meithrinfa gymwysedig. Ar hyn o bryd mae Kirsty yn arwain y Cylch Chwarae Natur, newydd, yn datblygu prosiectau a sesiynau i gynyddu ymgysylltiadau ac yn aml bydd yn arwain sesiynau ar gyfer plant mewn gofal a’r rhai sy’n gadael gofal. Mae hefyd yn artistig a chreadigol, ac yn gefnogol o’r celfyddydau.
Gwirfoddolwr
Dechreuodd Kris wirfoddoli gydag Elfennau Gwyllt yn 2018, gan ymgymryd ag amryw o dasgau amgylcheddol a helpu i greu cynnyrch ar gyfer siop Elfennau Gwyllt. Mae gan Kris ddiddordeb mewn ecoleg, cadwraeth a’r amgylchedd, ac mae wrth ei fodd yn yr awyr agored beth bynnag fo’r tywydd. Mae Kris hefyd yn mwynhau gweithio gyda phobl ag anghenion dysgu ychwanegol.
Garddwriaethwr, Paramaethwr
Mae Lisa wedi gweithio ers sawl blwyddyn gydag Elfennau Gwyllt ar brosiectau amgylcheddol yn ogystal â chyflwyno rhaglenni hyfforddiant. Mae Lisa wrth ei bodd gyda’r awyr agored a natur ac yn arbenigo mewn tyfu bwyd a paramaethyddiaeth ac mae ganddi ddiddordeb mawr mewn peilliwyr a chadw gwenyn. Bydd Lisa yn aml yn rhedeg y Clwb Gwaith ac yn cynnal a chadw gerddi bwyd Elfennau Gwyllt.
Cynorthwyydd Digwyddiadau a Gweithgareddau
Ymunodd Lowri ag Elfennau Gwyllt yn 2018 fel gwirfoddolwr gan gyflwyno gweithgareddau ar draws pob maes o’r busnes. Yn ddiweddar, dechreuodd Lowri weithio gydag Elfennau Gwyllt, gan ymgymryd â gwaith gweinyddol yn y swyddfa yn ogystal â chyflwyno ar y rheng flaen. Gwyddoniaeth yw arbenigedd Lowri ac mae’n arwain rhaglenni STEM a sesiynau yn y Gymraeg. Mae Lowri yn hynod o drefnus!
Prosiectau Amgylcheddol ac Ysgol Goedwig
Mae Melissa wedi gweithio gydag Elfennau Gwyllt ers sawl blwyddyn yn cyflawni prosiectau amgylcheddol, gweithgareddau cadwraeth, datblygiadau gardd ac ymgysylltiadau ysgol. Mae Melissa hefyd yn cyflwyno partïon pen-blwydd coetir, Ysgolion Coedwig ac yn arwain sesiynau Ysgol Coedwig yn y Gymraeg.
Gwirfoddolwr a Chynnal a Chadw Safle
Mae Mitch wedi bod yn gwirfoddoli gydag Elfennau Gwyllt ers sawl blwyddyn ac wedi gweithio ar draws sawl maes o fewn y busnes. Mae’n helpu gyda chynnal a chadw safleoedd ac yn ein Gardd Gudd, er y mae’n helpu ble bynnag mae’r angen. Mae Mitch yn ymarferol iawn ac yn drefnus, ac mae hefyd yn giamstar gyda chyfrifiaduron, ac felly’n grêt os oes unrhyw broblemau technegol.
Swyddog Ymgysylltu Ysgolion a Chymunedau
Ymunodd Neil ag Elfennau Gwyllt yn 2017 ac mae’n arwain cynigion corfforaethol a DDP, cynlluniau chwarae, prosiectau, STEM ac addysg yn yr awyr agored, Ysgolion Coedwig a chlybiau garddio. Mae Neil wrth ei fodd gydag ecoleg ac mae’n gefnogwr brwd o addysg wahanol. Mae gan Neil synnwyr digrifwch gwerth chweil, a chyfeirir at hyn yn aml fel rhan o arolygon Elfennau Gwyllt.
Arddangoswr Gwylltgrefft, Gweithgareddau, Digwyddiadau a Hyfforddiant
Dechreuodd Rheon wirfoddoli gydag Elfennau Gwyllt yn Mai 2014 ac mae bellach yn gweithio i’r sefydliad gan fynychu sioeau, dysgu saethyddiaeth, helpu gyda thasgau ymarferol ar safleoedd a chynlluniau chwarae. Rheon yw un o’n gwyllgrefftwyr mwyaf profiadol a gwybodus gan arwain sesiynau Blas ar Gwylltgrefft.
Cynorthwyydd Digwyddiadau, Gweithgareddau a Gweinyddiaeth
Ymunodd Tansy ag Elfennau Gwyllt fel gwirfoddolwr gyda rhaglenni dysgu yn yr awyr agored ac Ysgolion Coedwig yn dilyn cwblhau gradd yn y brifysgolyn 2016. Wedi hyn, a gyda chefnogaeth Elfennau Gwyllt, ymgymerodd Tansy â gradd Meistri Ymarferydd Addysg, gan ganolbwyntio ar addysg ag Ysgolion Coedwig, ac fe’i cwblhaodd yn ddiweddar. Mae Tansy bellach yn gweithio ar draws pob maes o’r busnes - gan deimlo’r un mor gartrefol â gwaith gweinyddol ariannol ac y mae’n cyflwyno clybiau gwyliau, Partïon Pen-blwydd Coetir a hyfforddiant!
English
07799 566533 info@wildelements.org.uk