Yn cysylltu pobl â natur, yn gwella bywydau, cyfleoedd a dyheadau
Cysylltwch â Ni
Mae croeso i chi gysylltu ag Elfennau Gwyllt ynglŷn ag unrhyw archebion, cwestiynau, prosiectau, partneriaethau cydweithredol neu i roi adborth am unrhyw un o’n gwasanaethau drwy:
Rivendell Building, Bangor University Treborth Botanic Garden, Bangor, Gwynedd, LL57 2RQ
07799 566533
info@wildelements.org.uk


Yr ydych yma: Addysg GTPM, Celfau ac Awyr Agored > Ysgolion Glan Môr a Choedwig
Ysgolion Glan Môr a Choedwig
Addysg a datblygiad personol yn y goedwig neu dwyni dywod (Ydy, athrawon, mae Ysgolion Coedwig a Glan Môr yn cyd-fynd ag Adroddiad Donaldson)
Archwiliwch, profwch a mwynhewch yr amgylchedd a’r byd naturiol gyda rhaglenni Ysgol Coedwig a / neu Ysgol Glan Môr wedi’u teilwra a’u darparu gan Elfennau Gwyllt.
Mae pob rhaglen addysgol Elfennau Gwyllt wedi’u selio ar ethos yr Ysgol Goedwig, yn cyflawni’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd newydd ac adroddiad Donaldson, ac yn cynnwys themâu trawsgwricwlaidd eraill, megis datrys problemau, meddwl yn feirniadol a gweithio mewn tîm.
Mae’r sesiynau’n rhai hunan-dywysedig, sy’n caniatáu’r cyfranogwyr yrru profiad dysgu eu hunain drwy ddewis gweithgareddau ar lefel unigol neu grŵp er mwyn annog grymuso, cyfaddawdu a gwneud dewisiadau personol.
Mae’r rhaglenni hefyd yn datblygu galluoedd emosiynol, sgiliau cymdeithasol a gwerthfawrogiad dyfnach o natur.
Gellir teilwra’r rhaglenni ar gyfer anghenion y gynulleidfa a thestunau / pynciau, dewisol y dosbarth, gan roi profiad dysgu unigryw wedi’i bennu gennych chi.
Fel arfer gydag Ysgolion Coedwig a Glan Môr mae angen lleiafrif o 6 sesiwn hanner diwrnod dros 6 wythnos (mae canlyniadau’n dangos yr hiraf bydd y rhaglen yn parhau, y mwyaf yw ei ddylanwad ar y cyfranogwyr!).
Am sesiynau byrrach, rhowch gynnig ar Addysg STEM a Dysgu yn yr Awyr Agored Elfennau Gwyllt neu cysylltwch â ni
- Archwilio cynefinoedd, adnabod rhywogaethau ac addasiadau mewn anifeiliaid
- Dringo coed ac adeiladu ffau
- Celf wyllt (traeth a mwd)
- Adeiladu bocsys adar
- Coginio yn yr awyr agored
- Cynnau tân
- Plannu coed / gwrychoedd
- Peirianneg cestyll tywod!
- Trochi pyllau / pyllau glan môr
- Datrys problemau
- Ffocysu a chanolbwyntio
- Sgiliau cyfathrebu a chymdeithasu
- Gweithio mewn tîm a chyfaddawdu
- Hunanymwybyddiaeth
- Hyder a hunan-barch
- Annibyniaeth
- Gwneud penderfyniadau personol
- Creadigrwydd
Mae rhaglen Ysgol Coedwig ac Ysgol Glan Môr yn dilyn 6 egwyddor arweiniol ethos yr Ysgol Goedwig ethos:
- Hirdymor, taith ddysgu ailadroddol – Edrych ar brosesau nid canlyniadau
- Hunan-dywysedig – yn grymuso’r cyfranogwyr i reoli eu dysgu a’u datblygiad
- Dull cyfannol – grwpiau bychain, ysgogi’r holl synhwyrau a holl fathau o ddysgu
- Hybu datblygiad emosiynol, hunan-barch a hyder
- Caniatáu’r cyfranogwyr ddyfnhau eu parch a’u hymwybyddiaeth o’r byd naturiol (Addaswyd o Ambrose, 2011).
Mwy o wybodaeth: Cysylltwch 07799 566533 neu e-bostiwch info@wildelements.org.uk.
Rheoleiddir Elfennau Gwyllt gan Arolygiaeth Gofal Cymru. I archebu copi o Adolygiad Safon Gofal blynyddol e-bostiwch info@wildelements.org.uk neu ffoniwch 07799 566533.
English
07799 566533 info@wildelements.org.uk