Yn cysylltu pobl â natur, yn gwella bywydau, cyfleoedd a dyheadau
Cysylltwch â Ni
Mae croeso i chi gysylltu ag Elfennau Gwyllt ynglŷn ag unrhyw archebion, cwestiynau, prosiectau, partneriaethau cydweithredol neu i roi adborth am unrhyw un o’n gwasanaethau drwy:
Rivendell Building, Bangor University Treborth Botanic Garden, Bangor, Gwynedd, LL57 2RQ
07799 566533
info@wildelements.org.uk


Yr ydych yma: Addysg GTPM, Celfau ac Awyr Agored > Tymhorau Gwyllt, Cylchoedd Natur
Tymhorau Gwyllt, Cylchoedd Natur
Dysgwch sut mae planhigion, cynefinoedd a bywyd gwyllt yn newid drwy’r tymhorau, gan edrych ar y blodau a’r planhigion sy’n newid, a deall cylchoedd bywyd, ecosystemau, ymddygiad anifeiliaid a chadwyni bwyd planhigion a phryfed trwy amrywiaeth o weithgareddau ymarferol a gemau addysgol.
Mae gweithgareddau awyr agored yn cynnwys dipio mewn pyllau, chwilio am bryfed, gwylio bywyd gwyllt, crefftau naturiol, gemau addysgol a theithiau o gwmpas tai poeth trofannol Gardd Fotaneg Treborth. Gellir cyflwyno Tymhorau Gwyllt, Cylchoedd Natur fel 4 sesiwn annibynnol neu dros gymaint o dymhorau ag sy’n ofynnol.
Prif thema Tymhorau Gwyllt, Cylchoedd Natur yw ecoleg a’i heffaith ar gymdeithas. Y deilliannau dysgu yw:
- DD1: Sut mae natur yn newid drwy’r tymhorau
- DD2: Cylchoedd bywyd planhigion a phryfed
- DD3: Deall ymddygiad anifeiliaid
Bydd y cyfranogwyr yn:
- Ymgymryd â gweithgareddau ymarferol, gemau a chrefftau
- Astudio bywyd pyllau a phryfed
- Adnabod rhywogaethau
- Mynd o gwmpas yr Ardd Fotaneg, tai gwydr a thai poeth
- Gweithio mewn timau i ddatblygu cyflwyniad am newidiadau tymhorol
- Defnyddio GPS i fonitro rhywogaethau
- Cofnodi data
Themâu trawsbynciol a grwpiau Meysydd Dysgu a Phrofiad (AoLE) eraill sydd wedi’u cynnwys yn y sesiwn:
- Rhifedd – mesur, cyfrifo
- Gwaith tîm
- Meddwl yn feirniadol
- Sgiliau TG a digidol
- Cyflwyniad
- Cyfathrebu
Gellir addasu’r holl weithgareddau yn y sesiwn i gyd-fynd â gofynion. Mae’r manylder yr eir iddo gyda phob pwnc yn dibynnu ar oedrannau, cyfnod allweddol a gallu’r rhai sy’n cymryd rhan, gydag elfennau mwy cymhleth wedi’u neilltuo ar gyfer y cyfnodau allweddol uchaf. Cysylltwch â ni i drafod eich gofynion ar gyfer eich grŵp.
English
07799 566533 info@wildelements.org.uk