Yn cysylltu pobl â natur, yn gwella bywydau, cyfleoedd a dyheadau
Cysylltwch â Ni
Mae croeso i chi gysylltu ag Elfennau Gwyllt ynglŷn ag unrhyw archebion, cwestiynau, prosiectau, partneriaethau cydweithredol neu i roi adborth am unrhyw un o’n gwasanaethau drwy:
Rivendell Building, Bangor University Treborth Botanic Garden, Bangor, Gwynedd, LL57 2RQ
07799 566533
info@wildelements.org.uk


Yr ydych yma: Addysg GTPM, Celfau ac Awyr Agored > Traethau, Baeau a Chregyn Llon
Traethau, Baeau a Chregyn Llon
Oeddech chi’n gwybod bod traethau’n llawn bioamrywiaeth?
Mae Traethau, Baeau a Chregyn Llon yn cynnwys archwilio cynefinoedd traeth, pyllau glan môr a thwyni tywod i ddarganfod yr amrywiaeth helaeth o greaduriaid sy’n byw mewn traethau lleol. O wymon, cregyn, malwod môr, a malwod tywod, i grancod, molysgiaid, anemonïau a gwneud gwylwyr o dan y dŵr i’w harchwilio’n agosach.
Datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o draethau, llanw, bywyd morol, yr amgylchedd morol a materion amgylcheddol, fel llygredd a phlastigau, i annog plant i gael gwared â sbwriel yn gyfrifol a chynyddu ymwybyddiaeth amgylcheddol.
Mae Traethau, Baeau a Chregyn Llong yn cynnwys:
- Archwilio cynefinoedd
- Adnabod rhywogaethau
- Celf traeth
- Gemau
- Cadwyni bwyd
- Cronni creigiau
Grwpiau themâu trawstoriad a Meysydd Dysgu a Phrofiad y sesiwn:
- Gweithio mewn tîm
- Sgiliau TGCh
- Gofynion y cwricwlwm - Rhifedd, llythrennedd, gwyddoniaeth a thechnoleg
- Datrys problemau, arweinyddiaeth, a deallusrwydd emosiynol
- Profiadau a arweinir gan blant sy’n caniatáu ffyniant sgiliau cymdeithasol, hunanymwybyddiaeth, hunanreoliad, hunan-gymhelliant ac empathi.
Gellir teilwra pob gweithgaredd sesiwn yn ôl yr angen. Mae manylder pob testun dan sylw yn ddibynnol ar oedran, cyfnod allweddol a galluoedd y cyfranogwyr, gyda’r elfennau mwy cymhleth wedi’u neilltuo at gyfnodau allweddol hŷn. Cysylltwch â ni i drafod eich anghenion chi ar gyfer eich grŵp.
English
07799 566533 info@wildelements.org.uk