Yn cysylltu pobl â natur, yn gwella bywydau, cyfleoedd a dyheadau

background

Cysylltwch â Ni


Mae croeso i chi gysylltu ag Elfennau Gwyllt ynglŷn ag unrhyw archebion, cwestiynau, prosiectau, partneriaethau cydweithredol neu i roi adborth am unrhyw un o’n gwasanaethau drwy:

Rivendell Building, Bangor University Treborth Botanic Garden, Bangor, Gwynedd, LL57 2RQ

07799 566533

info@wildelements.org.uk

background
sub-page-main-image

Yr ydych yma: Addysg GTPM, Celfau ac Awyr Agored > Sblat!

Sblat!

Ymunwch â ni mewn byd o beirianneg a ffiseg gyda Sblat!, sesiwn llawn hwyl sy’n arddangos ffiseg a pheirianneg yn y byd o’n cwmpas ac sy’n gwneud taflu wyau, ffrwythau a llysiau yn eich gardd yn dderbyniol! Mae Sblat! yn archwilio disgyrchiant, gwthio, tynnu, gwrthiant aer, buanedd, gwasgariad egni yn dilyn gwrthdrawiad, gwrthdrawiadau elastig ac anelastig, tafl-lwybrau a dyluniadau peirianyddol. Mae Sblat! yn cynnwys:

  • Gweithio mewn timau i ddylunio ac adeiladu catapyltiau
  • Saethu gwahanol ffrwythau a llysiau o wahanol faint a mesur y ‘Sblat!’
  • Creu parasiwtiau wyau a’u lansio i’r awyr ar gyfer profion parasiwt
  • Gollwng a thaflu wyau, llysiau a ffrwythau o wahanol uchder
  • Darganfod pam fod wyau, ffrwythau a gwahanol lysiau yn creu ‘Sblat!’ wrth daro’r ddaear a pham nad yw pêl tennis

Grwpiau trawstoriad themâu a Meysydd Dysgu a Phrofiad y sesiwn:

  • Mathemateg a rhifedd – mesur, cyfrif
  • Gweithio mewn tîm
  • Datrys problemau
  • Creadigrwydd
  • Cyfathrebu

Flach i gael wedi’i ariannuh gan yr RSC (Y Gymdeithas Gemeg Frenhinol) -Mae’r prosiect hwn yn galluogi plant i archwilio a deall disgyrchiant, gwthio, tynnu, gwrthiant aer a chyflymder, yn ogystal â gwasgariad egni gwrthrychau gyda gwahanol fasau yn dilyn effaith.: https://www.iop.org/about/public-engagement-grant-scheme/public-engagement-grant-scheme-funded-projects-2017

side-pic

Gellir teilwra pob gweithgaredd o fewn y sesiwn yn ôl yr angen. Mae manylder pob testun dan sylw yn ddibynnol ar oedran, cyfnod allweddol a galluoedd y cyfranogwyr, gyda’r elfennau cymhleth wedi’u neilltuo at gyfnodau allweddol hŷn. Cysylltwch â ni i drafod eich anghenion chi ar gyfer eich grŵp.

Rhowch gynnig ar Sblat Paent! – Ffiseg, peirianneg a chemeg gydag elfen artistig. Cyfnewidiwch ffrwythau, llysiau ac wyau gyda balŵn paent a chynfasau neu wal wag i greu sbloets lliw!

Mwy o wybodaeth - Cliciwch yma