Yn cysylltu pobl â natur, yn gwella bywydau, cyfleoedd a dyheadau
Cysylltwch â Ni
Mae croeso i chi gysylltu ag Elfennau Gwyllt ynglŷn ag unrhyw archebion, cwestiynau, prosiectau, partneriaethau cydweithredol neu i roi adborth am unrhyw un o’n gwasanaethau drwy:
Rivendell Building, Bangor University Treborth Botanic Garden, Bangor, Gwynedd, LL57 2RQ
07799 566533
info@wildelements.org.uk


Yr ydych yma: Addysg GTPM, Celfau ac Awyr Agored > Elfennau Cemegol: Y Ddaear, Aer, Dŵr a Thân
Elfennau Cemegol: Y Ddaear, Aer, Dŵr a Thân
Hwyl gyda’r elfennau! Arbrofion, gweithgareddau a gemau wedi’u cynllunio i ddysgu cemeg y ddaear, aer, dŵr a thân. Cemeg wedi’u wneud yn syml!
Mae Elfennau Cemegol: Y Ddaear, Aer, Dŵr a Thân yn cynnwys adweithiau cemegol dramatig, gwyddor tân, asid, alcali a niwtral, adnabod priodweddau pridd (pryf genwair, baw pryf genwair, PH, mathau o bridd), cennau, darganfod purdeb aer a phurdeb dŵr, ac archwilio effaith llygredd dŵr ac aer ar iechyd bodau dynol, bioamrywiaeth a’r amgylchedd.
Mae’r sesiwn yn cynnwys:
- Deunyddiau – Solidau, hylifau a nwyon
- Cerrig, pridd a ffosiliau (gan weithio’n wyddonol)
- Sut i ddadansoddi gwybodaeth, gwerthuso gwybodaeth a dod i ganlyniad gan gofnodi a chyflwyno’r canfyddiadau.
- Triongl tân
- Adweithiau cemegol
- Atmosffer y ddaear
- Llygredd aer a dŵr
Grwpiau trawstoriad themâu a Meysydd Dysgu a Phrofiad y sesiwn:
- Celfyddydau mynegiannol
- Llythrennedd
- Mathemateg a rhifedd
- Cyfathrebu
- Ymwybyddiaeth amgylcheddol
Gellir teilwrio pob gweithgaredd o fewn y sesiwn, yn ôl yr angen. Mae manylder pob testun dan sylw yn ddibynnol ar oedran, cyfnod allweddol a galluoedd y cyfranogwr, gyda’r elfennau cymhleth wedi’u neilltuo at cyfnodau allweddol hŷn. Cysylltwch â ni i drafod eich anghenionchi ar gyfer eich grŵp.
Mwy o wybodaeth - Cliciwch yma
English
07799 566533 info@wildelements.org.uk