Yn cysylltu pobl â natur, yn gwella bywydau, cyfleoedd a dyheadau
Cysylltwch â Ni
Mae croeso i chi gysylltu ag Elfennau Gwyllt ynglŷn ag unrhyw archebion, cwestiynau, prosiectau, partneriaethau cydweithredol neu i roi adborth am unrhyw un o’n gwasanaethau drwy:
Rivendell Building, Bangor University Treborth Botanic Garden, Bangor, Gwynedd, LL57 2RQ
07799 566533
info@wildelements.org.uk


Yr ydych yma: Addysg GTPM, Celfau ac Awyr Agored > Diwrnod ym Mywyd Ecolegydd Morol
Diwrnod ym Mywyd Ecolegydd Morol
Diwrnod hwyl o ymarferion, gemau ac arbrofion i amlygu agweddau ar ecoleg forol, rhywogaethau, cadwyni bwyd, cynefinoedd ac ecosystemau. Mae’r sesiwn hefyd yn archwilio materion amgylcheddol - llygredd, plastigau, rhywogaethau prin a goresgynnol ac effaith materion amgylcheddol.
Nod y rhaglen STEM hwn yw cynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth disgyblion o ecoleg, bywyd morol a materion amgylcheddol trwy gymysgedd o weithgareddau awyr agored, ymarferol, grŵp a dosbarth.1
Deilliannau Dysgu (DD)
- DD1: Beth yw ecoleg ac ecoleg forol
- DD2: Pwysigrwydd cynefinoedd morol wrth sicrhau bioamrywiaeth sy’n ffynnu, ac effaith bodau dynol, rhywogaeth oresgynnol, a digwyddiadau naturiol ar gynefin morol a bioamrywiaeth.
- DD3: Effaith materion amgylcheddol ar ecoleg a bioamrywiaeth. Beth ellir ei wneud ymhellach i warchod bioamrywiaeth a chynefinoedd.
Mae Diwrnod ym Mywyd Ecolegydd Morol yn cynnwys:
- Cyflwyniad i, ac eglurhad o bob deilliant dysgu, gydag ystod o weithgareddau, gemau ac arbrofion ategol i gyd fynd â phob testun.
- Archwilio cynefinoedd morol (twyni tywod, pyllau glan môr, traethlinau)
- Ymgymryd â’r dasg o adnabod rhywogaeth
- Dealltwriaeth o oroesi mewn amgylchedd morol.
- Cymryd rhan mewn gemau a gweithgareddau i hybu’u dealltwriaeth ecolegol e.e. gêm cadwyn fwyd morol, llinell amser pydradwy ysbwriel / plastigion
- Creu syllwr danddwr
- Defnyddio deunyddiau a gafwyd ar y traeth (e.e. llygredd, plastigion, micro blastigion) i greu cyflwyniadau am faterion amgylcheddol i’w cyflwyno i’w gilydd
- Trawstoriad themâu o TG, llythrennedd, datrys problemau, gweithio mewn tîm, cyfathrebu a sgiliau ymchwil.
Bydd pawb sy’n cymryd rhan yn derbyn tystysgrif i dystio’r hyn y maent wedi’i ddysgu o’r newydd am ecoleg forol.
Grwpiau themâu trawstoriad a Meysydd Dysgu a Phrofiad y sesiwn:
- Mathemateg a rhifedd – mesur, cyfrif
- Gweithio mewn tîm
- Datrys problemau
- Meddwl yn feirniadol
- Sgiliau TGCh
- Sgiliau cyfathrebu a chyflwyno
- Ymchwil
1. Mae’r rhaglen yn dilyn argymhellion a chanllawiau yn yr adroddiad “Integrated STEM Education through Project-Based Learning” gan Diana Laboy-Rush, Rheolwr Atebion, Learning.com.
English
07799 566533 info@wildelements.org.uk