Yn cysylltu pobl â natur, yn gwella bywydau, cyfleoedd a dyheadau
Cysylltwch â Ni
Mae croeso i chi gysylltu ag Elfennau Gwyllt ynglŷn ag unrhyw archebion, cwestiynau, prosiectau, partneriaethau cydweithredol neu i roi adborth am unrhyw un o’n gwasanaethau drwy:
Rivendell Building, Bangor University Treborth Botanic Garden, Bangor, Gwynedd, LL57 2RQ
07799 566533
info@wildelements.org.uk


Yr ydych yma: Addysg GTPM, Celfau ac Awyr Agored > Diwrnod ym Mywyd Ecolegydd
Diwrnod ym Mywyd Ecolegydd
Diwrnod llawn hwyl o ymarferion, gemau ac arbrofion i dynnu sylw at agweddau ar ecoleg tir, rhywogaethau, cadwyni bwyd, cynefinoedd ac ecosystemau. Mae’r sesiwn hefyd yn archwilio materion amgylcheddol – llygredd, plastigau, rhywogaethau prin ac ymledol, effaith materion amgylcheddol, a sut mae ecoleg yn dylanwadu ar arferion cymdeithasol a llywodraethol.
Prif thema Diwrnod ym Mywyd Ecolegydd yw ecoleg a’i heffaith ar gymdeithas. Y deilliannau dysgu yw:
- DD1: Beth yw ecoleg
- DD2: Pwysigrwydd cynefinoedd i sicrhau bioamrywiaeth ffyniannus ac effaith pobl, rhywogaethau ymledol a digwyddiadau naturiol ar gynefinoedd a bioamrywiaeth
- DD3: Effaith ecoleg a bioamrywiaeth ar gymdeithas. Beth y gellir ei wneud i warchod bioamrywiaeth a chynefinoedd ymhellach
Bydd y cyfranogwyr yn:
- Gwneud gweithgareddau ymarferol yn yr awyr agored, arbrofion a gemau sy’n dangos agweddau fel, llygredd, cadwyni bwyd, plaladdwyr a rhywogaethau ymledol
- Darganfod gwahanol ecosystemau
- Dipio yn y pwll
- Archwilio rhywogaethau prin Gardd Fotaneg Treborth
- Mynd o gwmpas yr Ardd Fotaneg, y tai gwydr a’r tai poeth i arddangos cynefinoedd a gwahanol hinsoddau
- Dysgu sut i fesur a chyfrifo uchder ac oedran coed
- Gweithio mewn timau i ymchwilio a chreu cyflwyniad am faterion amgylcheddol
Themâu trawsbynciol a grwpiau Meysydd Dysgu a Phrofiad (AoLE) eraill sydd wedi’u cynnwys yn y sesiwn:
- Rhifedd - mesur, cyfrifo
- Gwaith tîm
- Datrys problemau
- Meddwl yn feirniadol
- Sgiliau TG
- Cyfathrebu
Gellir addasu’r holl weithgareddau yn y sesiwn i gyd-fynd â gofynion. Mae’r manylder yr eir iddo gyda phob pwnc yn dibynnu ar oedrannau, cyfnod allweddol a gallu’r rhai sy’n cymryd rhan, gydag elfennau mwy cymhleth wedi’u neilltuo ar gyfer y cyfnodau allweddol uchaf. Cysylltwch â ni i drafod eich gofynion ar gyfer eich grŵp.
Diwrnod ym Mywyd Ecolegydd - Cliciwch yma
English
07799 566533 info@wildelements.org.uk