Yn cysylltu pobl â natur, yn gwella bywydau, cyfleoedd a dyheadau
Cysylltwch â Ni
Mae croeso i chi gysylltu ag Elfennau Gwyllt ynglŷn ag unrhyw archebion, cwestiynau, prosiectau, partneriaethau cydweithredol neu i roi adborth am unrhyw un o’n gwasanaethau drwy:
Rivendell Building, Bangor University Treborth Botanic Garden, Bangor, Gwynedd, LL57 2RQ
07799 566533
info@wildelements.org.uk


Yr ydych yma: Addysg GTPM, Celfau ac Awyr Agored > Diwrnod ym Mywyd Botanegydd
Diwrnod ym Mywyd Botanegydd
Hanes esblygol planhigion, sut mae planhigion yn gweithio, cylchoedd bywyd, peillwyr, pam mae’r blaned angen planhigion, a’r defnydd hanesyddol a modern o blanhigion, o feddyginiaeth a dillad, i ddatrys materion amgylcheddol. Microsgopau, modelau anatomegol, teithiau o amgylch y tai gwydr a’r tŷ planhigion cigysol.
Nod y prosiect STEM hwn yw cynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth disgyblion o blanhigion a gwyddorau planhigion trwy gymysgedd o weithgareddau ymarferol, grŵp a dosbarth.2
Deilliannau Dysgu (DD)
- Sut yr ydym yn defnyddio planhigion (e.e. meddygol, bwyd, cynnyrch, alga a.y.y.b.)
- Amrywiad planhigion ac esblygiad planhigion (gan gynnwys peilliad a chynefin)
- Gwahanol rannau o blanhigion a sut maent yn gweithio (strwythurau deilen, gwreiddyn a blodyn, celloedd planhigyn a gwasgariad hadau)
Mae Diwrnod ym Mywyd Botanegydd yn cynnwys:
- Cyflwyniad i, ac eglurhad o bob deilliant dysgu, gydag ystod o weithgareddau, gemau ac arbrofion ategol i gyd fynd â phob testun.
- Taith dywys o’r Ardd Fotaneg, tai gwydr, tai cynnes a rhywogaethau prin / arbennig
- Archwilio modelau o blanhigion a sleidiau microsgop
- Creu cyflwyniadau PowerPoint i’w cyflwyno i weddill y grŵp a staff Elfennau Gwyllt. Golyga hyn chwilio am atebion i ddatrys problemau’r byd go iawn, fel yr argymhellir gan Laboy-Rush
- Trawstoriad themâu o TG, llythrennedd, datrys problemau, gweithio mewn tîm, cyfathrebu a sgiliau ymchwil.
Bydd pawb sy’n cymryd rhan yn derbyn tystysgrif i dystio’r hyn y maent wedi’i ddysgu o’r newydd am fotaneg.
Grwpiau themâu trawstoriad a Meysydd Dysgu a Phrofiad y sesiwn:
- Gweithio mewn tîm
- Datrys problemau
- Meddwl yn feirniadol
- Sgiliau TGCh
- Sgiliau cyfathrebu a chyflwyno
- Sgiliau ymchwil
Gellir teilwra pob gweithgaredd sesiwn yn ôl yr angen. Mae manylder pob testun dan sylw yn ddibynnol ar oedran, cyfnod allweddol a galluoedd y cyfranogwyr, gyda’r elfennau mwy cymhleth wedi’u neilltuo at gyfnodau allweddol hŷn. Cysylltwch â ni i drafod eich anghenion chi ar gyfer eich grŵp.
1. Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru wedi cyfrannu at Ddiwrnod ym Mywyd Botanegwr drwy’r fenter Tyfu’r Dyfodol, a ariennir gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 fel rhan o Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
2. Mae’r rhaglen yn dilyn argymhellion a chanllawiau yn yr adroddiad “Integrated STEM Education through Project-Based Learning” gan Diana Laboy-Rush, Rheolwr Atebion, Learning.com.
English
07799 566533 info@wildelements.org.uk