Yn cysylltu pobl â natur, yn gwella bywydau, cyfleoedd a dyheadau
Cysylltwch â Ni
Mae croeso i chi gysylltu ag Elfennau Gwyllt ynglŷn ag unrhyw archebion, cwestiynau, prosiectau, partneriaethau cydweithredol neu i roi adborth am unrhyw un o’n gwasanaethau drwy:
Rivendell Building, Bangor University Treborth Botanic Garden, Bangor, Gwynedd, LL57 2RQ
07799 566533
info@wildelements.org.uk
Yr ydych yma: Addysg GTPM, Celfau ac Awyr Agored > Clybiau Gwyddoniaeth a Digwyddiadau Gwyddonol
Clybiau Gwyddoniaeth a Digwyddiadau Gwyddonol
Gallwch ysbrydoli eich dosbarth /grwp neu wella cyfleoedd dysgu eich teulu a chydlyniad cymunedol gyda Chlwb Gwyddoniaeth Elfennau Gwyllt neu ddigwyddiad gwyddoniaeth cymunedol
Sut gellir defnyddio tomato i egluro difodiant deinosoriaid? Sut gall cactws helpu i adeiladu pont?
Fel darparwr arbenigol addysg STEM, mae Elfennau Gwyllt yn cynnig ystod eang o gemau gwyddonol hwyl ac ymarferol, gweithgareddau, arbrofion a chystadlaethau. Mae’r rhain wedi’u cynllunio i gyflwyno gwyddoniaeth cymhleth mewn modd hawdd ac i hybu dulliau gwyddonol o feddwl ( datblygu hypotheses, profi, arbrofi, casglu data, dod i ganlyniad a chyflwyno darganfyddiadau).
Cyflwynir gan athrawon gwyddoniaeth cymwys, felly mae gweithgareddau ffiseg, cemeg, peirianneg a gwyddonaieth amgylcheddol Elfennau Gwyllt yn addas ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd, digwyddiadau gwyddoniaeth cymunedol, clybiau gwyddoniaeth a sesiynau unigol ar gyfer pobl o bob oedran.
Enghreifftiau o sesiynau
Mae pob sesiwn yn ymwneud â datrys problemau, meddwl yn feirniadol, gwaith tîm, cyfathrebu a chyflwyno, gan ddefnyddio ffyrdd newydd i gynyddu diddordeb yn y pwnc. Mae gweithgareddau peirianneg hefyd yn ymwneud ag Arferion Meddwl Peirianyddo ( EHoM Engineering Habits of Mind) e.e. systemau meddwl, addasu ,canfod problemau, datrys problemau yn greadigol, delweddu a gwella.
Rhaglenni penodol 2 awr i 6 wythnos ar gael
Mae’r gost yn dibynnu ar hyd y sesiwn, y gweithgareddau dewisol, y nifer sy’n cyeryd rhan a’r lleoliad. Byddwn yn cynnig gostyngiad os ydych chi’n trefnu mwy nag un gweithgaredd. Cysylltwch gyda ni i wybod mwy.
Fel arall, gwelwch Galendr Diwgyddiadau Elfennau Gwyllt ar gyfer digwyddiadau ar y gweill.
Wedi’i Ariannu’n Falch Gan Yr RSC (Y Gymdeithas Gemeg Frenhinol): https://www.rsc.org/prizes-funding/funding/find-funding/outreach-fund/#undefined
English
07799 566533 info@wildelements.org.uk